Reading 1–4 Abertawe
Cafodd Abertawe fuddugoliaeth gyfforddus ar Ddydd Calan wrth iddynt deithio i Stadiwm Madejski i herio Reading yn y Bencampwriaeth.
Rhwydodd yr Elyrch deirgwaith cyn hanner amser cyn diogelu’r fuddugoliaeth gyda phedwaredd yn gynnar yn yr ail gyfnod.
Dau funud yn unig a oedd ar y cloc pan beniodd Oli McBurnie’r ymwelwyr ar y blaen o groesiad Kyle Naughton.
Dyblodd Connor Roberts y fantais wedi hanner awr cyn i Mike van der Hoorn ychwanegu’r drydedd o groesiad Matt Grimes ym munud olaf yr hanner cyntaf.
Rhwydodd McBurnie ei ail ef a phedwaredd ei dîm o’r smotyn dri munud ar ôl troi yn dilyn trosedd Andy Yiadom ar Wayne Routledge.
Rhoddodd hynny’r gêm ym mhell o afael Reading gan olygu mai gôl gysur yn unig a oedd ymdrech Callum Harriott yn y chwarter awr olaf.
Mae’r canlyniad yn codi Abertawe yn ôl i hanner uchaf y tabl, i’r deddegfed safle.
.
Reading
Tîm: Jaakkola, Yiadom, Ilori, O’Shea, Richards, Rinomhota, Swift, McCleary (Harriott 72’), Aluko (Loader 72’), Barrow, Meite (Bodvarsson 61’)
Gôl: Harriott 77’
Cardiau Melyn: Ilori 67’, Barrow 75’
.
Abertawe
Tîm: Mulder, Naughton, van der Hoorn, Rodon, Roberts, Fer, Grimes, Dyer (Fulton 85’), Celina, Routledge (Carter-Vickers 88’), McBurnie (Baker-Richardson 73’)
Goliau: McBurnie 2’, [c.o.s.] 48’, Roberts 30’, van der Hoorn 45’
Cerdyn Melyn: Roberts 53’
.
Torf: 15,644