Mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi ymddiheuro am ei dactegau wrth i’w dîm lwyddo i achub pwynt yn erbyn Wigan yn Stadiwm Liberty brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 29).

Roedd yr Elyrch ar ei hôl hi o 2-0 ar yr hanner ar ôl i Graham Potter ddewis nifer o chwaraewyr allan o’u safleoedd naturiol, ac amnewid rhwng tri a phedwar amddiffynnwr yn y cefn.

Rhwydodd Joe Garner ddwywaith – gan gynnwys unwaith o’r smotyn – cyn i reolwr Abertawe orfod newid ei dactegau – a sawl chwaraewr – ar yr hanner, ac roedden nhw’n edrych yn fwy hyderus yn yr ail hanner, wrth i gôl Mike van der Hoorn sicrhau pwynt ar ôl i Dan Burn, capten Wigan, ddarganfod ei rwyd ei hun.

‘Cyfrifoldeb llawn’

“Dw i’n cymryd cyfrifoldeb llawn am yr hanner cyntaf, doedden ni ddim wedi gallu bod yn ni ein hunain ac roedd yn 45 munud anghyfforddus,” meddai Graham Potter.

“Roedd gyda fi syniad o sut roedden ni am chwarae, ond wnaeth e ddim llwyddo.

“Dw i’n siomedig ynof fi fy hun a dw i’n ymddiheuro wrth y chwaraewyr a’r cefnogwyr am yr hanner cyntaf.”

A wnaeth e ddim hawlio’r clod am wyrdroi perfformiad ei dîm yn yr ail hanner, gan benderfynu canmol y chwaraewyr a’r cefnogwyr.

“Roedd yr ymateb yn yr ail hanner yn wych ac roedd ein cefnogwyr, drwy gydol y gêm, yn anhygoel,” meddai.

“Wnaethon nhw ein cefnogi ni mewn ffordd anhygoel ac fe allen ni fod wedi cipio’r triphwynt.”