Wrecsam 1–0 Solihull Moors
Mae Wrecsam yn agosáu at frig Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar ôl cuo Solihull Moors ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.
Paul Rutherford a sgoriodd unig gôl y gêm i’r Dreigiau wrth iddynt gau’r bwlch ar Leyton Orient i bwynt.
Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe rwydodd Rutherford y gôl holl bwysig bedwar munud wedi’r egwyl o groesiad James Jennings ac fe brofodd honno’n ddigon.
Mae’r tri phwynt, ynghyd â gêm gyfartal Orient yn Dover, yn golygu mai pwynt yn unig sydd bellach yn gwahanu’r ddau dîm ar frig y tabl.
.
Wrecsam
Tîm: Lainton, Jennings, Pearson, Walker (Roberts 85’), Carrington, Summerfield (Tollitt 79’), Rutherford, Wright, Lawlor, Beavon (Young 67’), Grant
Gôl: Rutherford 49’
Cerdyn Melyn: Grant 83’
.
Solihull Moors
Tîm: Boot, Williams, Reckord, Osborne, Gudger, Daly, Storer, Carter, Maxwell (Hylton 67’), Bissett (Stenson 79’), Wright (Yussuf 72’)
.
Torf: 6,220