Casnewydd 0–0 Crawley                                                                 

Di sgôr a oedd hi wrth i Gasnewydd groesawu Crawley i Rodney Parade yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Er nad yw pwynt gartref yn erbyn tîm o’r hanner gwaelod yn ganlyniad gwych, mae o leiaf yn dod â rhediad o dair colled yn y gynghrair i ben.

Blaenwr y tîm cartref, Padraig Amond, a ddaeth agosaf at sgorio ond roedd Glenn Morris yn y gôl i;r ymwelwyr yn ddigon effro i;w atal ar bob achlysur.

Mae’r canlyniad yn eu rhoi yn ddegfed yn y tabl, bedwar pwynt o’r safleoedd ail gyfle.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Franks, Bennett, Demetriou, Hornby-Forbes (Harris 78’), Willmott, Crofts (O’Brien 51’), Dolan (Bakinson 56’), Butler, Amond, Matt

Cerdyn Melyn: Harris 88′

.

Crawley

Tîm: Norris, Francomb, McNerney, Connolly, Doherty, Sesay, Payne, Bulman, Grego-Cox (Gambin 77’), Poleon, Camara

.

Torf: i ddilyn