Fe fydd tîm pêl-droed Caerdydd “mewn trwbwl” pe na baen nhw’n curo Man U yr wythnos nesaf, meddai’r rheolwr Neil Warnock.

Collodd yr Adar Gleision o 3-2 yn Watford ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 15).

Un pwynt yn unig mae’r tîm wedi llwyddo i’w ennill oddi cartref yn eu deg gêm ddiwethaf – a daeth hwnnw yn erbyn Huddersfield ym mis Awst.

Dydyn nhw ddim wedi ennill oddi cartref yn Uwch Gynghrair Lloegr ers curo Southampton ym mis Ebrill 2014.

Byddan nhw’n herio Man U yn Stadiwm Dinas Caerdydd y penwythnos nesaf, cyn wynebu Crystal Palace a Leicester City dros gyfnod y Nadolig.

‘Canlyniad gorau’r tymor’

“Does dim ots gyda fi golli oddi cartref pe baen ni’n ennill pob gêm gartref,” meddai Neil Warnock.

“Pe na baen ni’n curo Man U yr wythnos nesaf, byddwn ni mewn trwbwl.

“Rhaid i ni gael pwyntiau oddi cartref. Hwn fyddai canlyniad gorau’r tymor, os a phe bai’n dod.”