Abertawe 2–1 Sheffield Wednesday
Tarodd Abertawe nôl i guro Sheffield Wednesday ar y Liberty yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn yr ail hanner cyn i ddwy gôl gyflym gipio’r tri phwynt i’r Elyrch.
Er i Abertawe gael y gorau o hanner cyntaf di sgôr a dechrau’n dda yn yr ail hanner, Sheffield Wednesday a aeth ar y blaen yn erbyn llif y chwarae toc wedi’r awr. Marco Matias yn rhwydo wedi llithriad gan Joe Rodon yn y cefn.
Nid oedd yr Elyrch yn haeddu bod er ei hôl hi a buan iawn y newidiodd pethau gyda dwy gôl mewn dau funud tua ugain munud o’r diwedd.
Yr eilydd, Bersant Celina, a gafodd y gyntaf, yn gorffen yn daclus o groesiad Connor Roberts wedi symudiad da gan y tîm cartref.
Roedd y gŵr o Kosovo yn ei chanol hi eto funud yn ddiweddarach, yn creu’r to hwn, i Wayne Routledge roi Abertawe ar y blaen gyda deunaw munud i fynd.
Felly yr arhosodd hi tan y diwedd weth i dîm Graham Potter sicrhau buddugoliaeth, buddugoliaeth sydd yn eu codi i’r nawfed safle yn y tabl.
.
Abertawe
Tîm: Mulder, Roberts, van der Hoorn (Carter-Vickers 45’), Rodon, Naughton (Celina 65’), Fer, Grimes, Routledge, McKay, Dyer (Montero 63’), McBurnie
Goliay: Celina 71’, Routledge 72’
.
Sheffield Wednesday
Tîm: Dawson, Lees, Pudil, Thorniley, Baker, Pelupessy, Onomah (Matias 45’), Fox (Fletcher 79’), Reach, Lucas Joao, Nuhiu
Gôl: Matias 63’
Cardiau Melyn: Thorniley 12’, Baker 33’
.
Torf: 18,692