Fydd Martin Olsson, cefnwr chwith tîm pêl-droed Abertawe, ddim ar gael am weddill y tymor.

Mae’r gŵr o Sweden wedi cael llawdriniaeth ar ôl cael ei gludo oddi ar y cae ar wastad ei gefn yr wythnos ddiwethaf, wrth i’r Elyrch guro Brentford oddi cartref o 3-2.

Daeth i’r amlwg wedyn ei fod e wedi anafu gweyllen ei ffêr – yr un anaf â’r hyn oedd wedi cadw’r chwaraewr canol cae Leroy Fer allan am chwe mis eleni, a Nathan Dyer allan am wyth mis y tymor diwethaf.

Mae’n un o chwaraewyr mwyaf profiadol y garfan, ar ôl symud o Norwich fis Ionawr y llynedd.