Mae Martin Tyler, sylwebydd pêl-droed SKY Sports, wedi cael ei feirniadau ar y cyfryngau cymdeithasol am gyfeirio at David Brooks fel “Sais sy’n chwarae dros Gymru”.

Daeth ei sylwadau yn ystod y gêm rhwng Bournemouth a Lerpwl, a gafodd ei darlledu’n fyw gan y sianel ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 8), ac maen nhw’n dilyn helynt fis diwethaf pan wnaeth y sianel osod baner Lloegr dros Gymru ar fap rhyngweithiol.

Roedd e’n sylwebu ar y chwaraewr pan ddywedodd “Brooks, y Sais sy’n chwarae dros Gymru, yn cwrso”.

Mae’r chwaraewr canol cae yn enedigol o Warrington, ond fe benderfynodd gynrychioli tîm dan 20 a thîm dan 21 Cymru ar ôl bod yn chwarae i dîm dan 20 Lloegr.

Mae’n gymwys i chwarae dros Gymru am fod ei fam yn hanu o Langollen, ac mae’n aelod o’r garfan genedlaethol ers dros flwyddyn.

Ymateb

Dyma’r ymateb a gafodd y sylwadau ar Twitter ers y gêm.

Mae eraill yn cymharu’r sefyllfa â galw Raheem Sterling neu John Barnes yn “un o Jamaica sy’n chwarae dros Loegr”: