Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Graham Potter yn dweud nad yw’r anaf i’r cefnwr chwith Martin Olsson “yn edrych yn dda”.

Fe gafodd y chwaraewr o Sweden ei gludo oddi ar y cae ar wastad ei gefn ar ôl naw munud, wrth i’r Elyrch lwyddo i guro Brentford o 3-2 ar Barc Griffin ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 8).

Ac yn ôl pob tebyg, mae e wedi anafu gweyllen ei ffêr.

Mae’n rhy gynnar i wybod pa mor ddifrifol yw’r anaf, yn ôl Graham Potter.

“Dyw e ddim yn edrych yn dda o ran Martin,” meddai.

“Mae’n edrych fel ardal y gweyllen ffêr, ond bydd rhaid i ni drefnu sgan a gweld wedyn beth yn union yw’r broblem.”