Brentford 2–3 Abertawe                                                                 

Cael a chael oedd hi yn y diwedd ond cipiodd Abertawe’r tri phwynt wrth iddynt deithio i Griffin Park i herio Brentford yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Aeth yr Elyrch dair gôl ar y blaen yn yr hanner awr agoriadol cyn ildio dwy o bobtu’r egwyl i greu diweddglo nerfus.

Aeth Abertawe ar y blaen yn y munud cyntaf gyda gôl Wayne Routledge. Gwnaeth Barrie McKay yn dda i ennill y bêl cyn gosod y gôl agoriadol ar blât i Routledge yn yr eiliadau agoriadol.

Dyblydd yr ymwelwyr eu mantais hanner ffordd trwy’r hanner pan wyrodd amddiffynnwr Brentford a Chymru, Chris Mepham, y bêl i’w rwyd ei hun.

Ac roedd hi’n dair bum munud yn ddiweddarach wedi i ymdrech acrobataidd Oli McBurnie arwain at gôl i Leroy Fer yn y cwrt chwech.

Rhoddwyd llygedyn o obaith i’r tîm cartref funud cyn yr egwyl serch hynny gyda gôl Ollie Watkins, y bêl yn adlamu i mewn oddi ar ei ben wedi i ergyd wreiddiol Josh McEchran o bellter daro’r trawst.

A dim ond gôl a oedd ynddi yn dilyn gôl Brentford toc wedi hanner ffordd trwy’r ail hanner, Said Banrahma yn crymanu cic rydd berffaith i’r gornel uchaf o ugain llath.

A bu bron i Brentford gipio pwynt yn hwyr yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm ond tarodd foli acrobataidd Sergi Canos y trawst.

Buddugoliaeth gyntaf mewn pedair gêm i dîm Graham Potter felly, canlyniad sydd yn eu codi i’r deuddegfed safle yn y tabl.

.

Brentford

Tîm: Bentley, Dalsgaard, Konsa, Mepham, Henry, McEchran (Judge 45’), Yennaris (Mokotjo 70’), Watkins, Sawyers, Banrahma (Canos 79’), Maupay

Goliau: Watkins 45’, Banrahma 69’

.

Abertawe

Tîm: Mulder, Naghton, can der Hoorn, Rodon, Olsson (Robert 14’), Fer, Grimes, McKay, Dyer (Fulton 67’), Routledge (Carter-Vickers 79’), McBurnie

Goliau: Routledge 1’, Mepham [g.e.h.] 22’, Fer 27’

Cerdyn Melyn: Carter-Vickers 80’

.

Torf: 9,442