Caerdydd 1–0 Southampton
Cododd Caerdydd yn glir o safleoedd y gwymp yn Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sadwrn gyda buddugoliaeth yn erbyn Southampton yn Stadiwm y Ddinas.
Callum Paterson a sgoriodd unig gôl y gêm wrth i’r Adar Gleision ennill eu trydyedd gêm gartref yn olynol.
Caerdydd a oedd tîm gorau’r hanner cyntaf wrth i amddiffyn Southampton edrych yn fregus tu hwnt yn y gêm gyntaf ers i’r rheolwr newydd, Ralph Hasenhuttl, gamu i sedd Mark Hughes. Ond roedd y tîm cartref yn wastraffus a di sgôr oedd hi ar yr egwyl.
Roedd hi’n gêm agosach yn yr ail hanner ond roedd un camgymeriad amddiffynnol erchyll yn ddigon i benderfynu’r canlyniad chwarter awr o’r diwedd.
Ceisiodd Jannik Vestergaard chwarae’r bêl yn ôl i’w gôl-geidwad ond gwnaeth lanast llwyr ohoni a manteisiodd Callum Paterson gan gipio’r bêl a a’i llithro i gefn y rhwyd.
Bu rhaid i Gaerdydd amddiffyn mymryn wedi hynny ond gwnaethant hynny’n gymharol gyfforddus i sicrhau’r fuddugoliaeth, buddugoliaeth sydd yn eu codi i’r pedwerydd safle ar ddeg yn y tabl.
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bennett, Gunnarsson, Menez-Laing (Hoilett 67’), Camarasa, Arter (Ralls 90+1’), Murphy (Harris 85’), Paterson
Gôl: Paterson 74’
Cardiau Melyn: Morrison 19’, Bennett 66’
.
Southampton
Tîm: McCarthy, Valery (Stephens 45’), Benarek, Vestergaard, Targett, Romeu (Ward-Prowse 80’), Hojbjerg, Lemina, Armstrong, Austin (Gabbiadini 75’), Redmond
Cerdyn Melyn: Valery 28’
.
Torf: 30,067