Mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi herio’i dîm i fynd i Brentford i gipio’r fuddugoliaeth yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 8, 3 o’r gloch).

Mae’r Elyrch heb fuddugoliaeth yn eu tair gêm flaenorol – yn erbyn Norwich, West Brom a Derby – ac fe allen nhw ei gael yn anodd sicrhau digon o feddiant ar Barc Griffin heddiw, yn erbyn tîm sy’n adnabyddus am eu dull deniadol o chwarae.

Serch hynny, mae’r Saeson wedi cwympo i ail ar bymtheg yn y tabl ar ôl i’w rheolwr blaenorol Dean Smith adael am Aston Villa ym mis Hydref. Dim ond unwaith maen nhw wedi ennill mewn wyth gêm ers hynny.

“Dw i’n credu y bydd hi’n gêm gyffrous,” meddai Graham Potter.

“Fe wyliais i Brentford yn chwarae yn erbyn West Brom. Fe gawson nhw dipyn o lwc yn yr hanner cyntaf, pan gafodd West Brom gwpwl o gyfleoedd, ond gallech chi weld eu rhinweddau – yn enwedig gyda’r bêl.

“Mae ganddyn nhw batrwm o chwarae a hunaniaeth amlwg.

“Mae’n bosib eu bod nhw ynghanol cyfnod o newid ar ôl i Dean adael i gymryd drosodd ar Barc Villa, ond mae Parc Griffin bob amser yn le anodd i fynd iddo.

“Mae’n gae tynn, ac fe fydd y dorf ar ein pennau ni. Ond rhaid i ni ymdopi â hynny. Byddwn ni’n mynd yno yn ceisio ennill y gêm.”

Anafiadau

Yn y cyfamser, mae newyddion cymysg i’r Elyrch o safbwynt anafiadau.

Mae’r ymosodwr Wilfried Bony yn dychwelyd i’r garfan unwaith eto.

Ond mae Daniel James wedi anafu llinyn y gâr, ac yn ymuno â Tom Carroll a Luciano Narsingh ar y rhestr anafiadau.