Wedi misoedd o ansicrwydd, mae clwb pêl-droed Bangor yn agos at gael perchnogion newydd.
Mae trafferthion diweddar y clwb wedi ymwneud â ffordd y cwmni, Vaughan Sports Management, o redeg pethau yn Stadiwm Nantporth.
Mae’r cwmni wedi cymryd cam yn ôl yn ddiweddar, fodd bynnag, ar ôl i Stephen Vaughan Jnr gamu i lawr o fod yn gyfarwyddwr pêl-droed er mwyn cymryd swydd hyfforddi yn Malta.
Nawr, mae ‘prynwr’ newydd, dienw, wedi dangos diddordeb mewn cymryd drosodd y clwb.
Diwedd cyfnod cythryblus?
Cymysg fu record Vaughan Sports Management ers 2016.
Mewn cyfnod o ddwy flynedd fe gyrhaeddodd y clwb yr ail a’r pedwerydd safle yn Uwch Gynghrair Cymru, ar ben cael cymhwyster i chwarae yn Ewrop o dan reolaeth Kevin Nicholson.
Ond fe gafodd y clwb ei ddiraddio ar ddechrau’r tymor hwn ar ôl methu â sicrhau Trwydded Ddomestig Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Roedd hyn o ganlyniad i fethiant Vaughan Sports Management i ddatgan gwybodaeth ariannol hanfodol.
Pennod newydd?
Mae James Lees a Williams Adamson, a oedd yn gyfarwyddwyr, wedi cytuno i gamu i lawr pan gydd y tîm perchnogion dienw newydd yn barod i gymryd drosodd.
Mi fydd y newyddion yn plesio llawer o gefnogwyr sydd wedi bod yn feirniadol o’r perchnogion presennol, ac sydd wedi arwain at ostyngiad mawr yn y niferoedd sy’n mynd i wylio gemau.
Fe chwaraeodd Bangor eu gêm gyntaf o dan reolaeth newydd Gary Taylor-Fletcher nos Wener (Tachwedd 30), gan golli i’r Rhyl.
Mae disgwyl cyhoeddiad gan y clwb yn ystod y dyddiau nesaf, cyn y byddan nhw’n chwarae yn nhrydedd rownd Cwpan JD yn Nantporth nos Wener (Rhagfyr 7) am 7.45yh.