West Ham 3–1 Caerdydd                                                                 

Colli fu hanes Caerdydd wrth iddynt deithio i Stadiwm Llundain i wynebu West Ham yn Uwch Gynghrair Lloegr nos Fawrth.

Gêm o ddau hanner oedd hi wrth i’r Adar Gleision gael y gorau o’r hanner cyntaf cyn ildio tair yn yr ail.

Yr ymwelwyr o Gymru a orffennodd yr hanner cyntaf orau a chawsant gyfle gwych i fynd ar y blaen pan gafodd Junior Hoilett ei wthio gan Marko Arnautovic yn y cwrt cosbi ddeg munud cyn yr egwyl. Joe Ralls a gymerodd y gic ond cafodd ei harbed gan gyn gôl-geidwad Abertawe o bawb, Lukasz Fabianski.

Roedd hi’n gêm wahanol ar ôl troi gyda West Ham yn rheoli ac amddiffyn Caerdydd ar chwâl.

Rhoddodd Lucas Perez y tîm cartref ar y blaen wedi pedwar munud yn dilyn methiant yr Adar Gleision i glirio’r bêl o’r cwrt cosbi.

Ychwanegodd y Sbaenwr ei ail ef ac ail ei dîm chwe munud yn ddiweddarach wedi gwaith da Arthur Masuaku ar y chwith.

Ac roedd y tri phwynt yn ddiogel ar yr awr wedi i Michail Antonio benio cic gornel Robert Snodgrass heibio i Neil Etheridge yn y gôl.

Golygodd hynny mai gôl gysur yn unig a oedd ymdrech flêr yr eilydd Josh Murphy yn eiliadau olaf yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae Caerdydd yn aros yn yr unfed safle ar bymtheg yn y tabl.

.

West Ham

Tîm: Fabianski, Antonio, Diop, Ogbonna, Masuaku, Snodgrass (Diangana 76’), Noble, Rice, Felipe Anderson, Hernandez (Carroll 64’), Arnautovic (Perez 40’)

Gôl: Perez 49’, 55’, Antonio 61’

Cerdyn Melyn: Arnautovic 36’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bennett, Gunnarsson, Camarasa, Ralls (Mendez-Laing 64’), Arter, Hoilett (Murphy 64’), Paterson (Harris 73’)

Gôl: Josh Murphy 90+5’

Cardiau Melyn: Ralls 40’, Bamba 65’

.

Torf: 56,811