Mae cyn-chwaraewr Cymru, a’r dyn sydd wedi dod a llwyddiant ysgubol i dîm pêl-droed Wrecsam y tymor yma, wedi gadael y Cae Ras am yr Amwythig.

Daeth y newyddion bod Sam Ricketts yn absennol ar gyfer gêm Cwpan FA Lloegr yn erbyn Casnewydd nos Sadwrn (Tachwedd 1) yn syndod i gefnogwyr Wrecsam wrth baratoi at gêm mor fawr.

Dim ond ar fore’r gem daeth y si bod y rheolwr 37 oed mewn trafodaethau gyda thîm pêl-droed Amwythig i fentro i ochor arall y ffin.

Mae’n gadael Wrecsam yn bedwerydd yn nhabl Cynghrair Cenedlaethol Lloegr ar ôl wyth mis yn ei rôl gyntaf fel rheolwr.

Mae gan Sam Ricketts 52 o gapiau i Gymru, ac mae ei benderfyniad i adael Wrecsam wedi corddi cefnogwyr y clwb a Chymru.

Mi fydd y cyn-amddiffynnwr yn cymryd lle John Askey yn yr Amwythig, a gafodd ei ddiswyddo ar ôl pum mis yn rheolwr.