Mae pryderon am Daniel James, asgellwr Abertawe a Chymru, ar ôl iddo adael y cae wrth i’r Elyrch golli o 2-1 yn Derby ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 1).

Yn ôl y rheolwr Graham Potter, teimlodd e linyn y gâr yn tynhau yn niwedd y gêm.

Bu’n rhaid i’r Elyrch orffen y gêm gyda deg dyn gan eu bod nhw eisoes wedi dod â’u tri eilydd i’r cae.

“Mae e wedi cael problemau o’r blaen. Gwibiwr yw e – ond roedd yn fel ddim yn teimlo’n iawn na dim byd arall,” meddai Graham Potter.

“Collon ni Dan jyst ar ôl i ni sgorio’r gôl. Mae hynny’n crynhoi lle’r ydyn ni arni ar hyn o bryd.”

Mae’r Elyrch yn drydydd ar ddeg yn y Bencampwriaeth yn dilyn y canlyniad.

Canmol Harry Wilson

Yn y cyfamser, mae Harry Wilson, y Cymro 21 oed, wedi cael ei ganmol ar ôl sgorio’r ddwy gôl i Derby.

Mae e ar fenthyg o Lerpwl, ac yn brif sgoriwr ei glwb newydd y tymor hwn ond mae Frank Lampard, rheolwr Derby, yn credu y gall e wella eto.

Roedd ei gôl gyntaf yn chwip o ergyd o 25 llathen ar ôl hanner awr.

Ac wrth i’r Elyrch barhau i roi mwy o le iddo, fe rwydodd o ymyl y cwrt cosbi ddeg munud yn ddiweddarach wrth i Oli McBurnie ildio’r meddiant iddo.

Daeth yn agos i sgorio’i drydedd gôl o ugain llathen cyn i’r golwr Erwin Mulder arbed yr ergyd.

“Mae Harry yn chwarae’n dda ac fe gafodd e ddwy ergyd dda iawn,” meddai Frank Lampard.

“Yn enwedig y gyntaf ac mewn gêm fel heddiw sydd ychydig yn bytiog ar y dechrau, mae angen eiliad hudolus arnoch chi, ac fe greodd e hynny.

“Wnes i hoffi ei berfformiad ar y cyfan oherwydd gall eich llygaid gael eu denu at ergydion Harry, ond mae e’n chwaraewr ifanc sy’n dal i ddatblygu ac ro’n i’n meddwl ei fod e wedi gweithio’n galed.

“Mae e’n dwyn y penawdau, yn haeddiannol felly yn sgil eiliadau o safon ry’n ni’n gwybod y gall eu creu, ond mae angen iddo weithio oddi ar y bêl hefyd – fe wnaeth e hynny heddiw – ac fe gafodd ei hun mewn sefyllfaoedd braf er mwyn cael y bêl a throi.”

‘Cymeriad’

Mae Graham Potter, rheolwr Abertawe, yn dweud bod ganddo fe a’i chwaraewyr waith dysgu i’w wneud ar ôl y golled.

“Ro’n i’n meddwl bod Derby yn haeddu ennill y gêm ond dw i’n falch iawn o’r chwaraewyr am gadw ati, dal eu tir a gwneud gornest ddiddorol ohoni yn yr ugain munud olaf.

“Doedden ni ddim yn ni ein hunain yn yr hanner cyntaf, gallwn ni wneud yn well na hynny ond roedd y gôl gyntaf yn ergyd o safon.

“Ry’n ni yng nghanol proses lle mae gyda ni griw ifanc, felly mae tipyn o waith dysgu i bawb, gan gynnwys fi fy hun, ond roedd y cymeriad a’r parodrwydd i ddyfalbarhau yno unwaith eto.”

Ychwanega fod angen troi’r perfformiadau’n ganlyniadau positif.