Caerdydd 2–1 Wolves                                                                      

Sgoriodd Junior Hoilett chwip o gôl wrth i Gaerdydd gipio buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Wolves yn Stadiwm y Ddinas nos Wener.

Cododd yr Adar Gleision allan o dri isaf Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth haeddiannol.

Aeth Wolves ar y blaen wedi deunaw munud, llwyddodd Neil Etheridge i arbed peniad Raul Jimenez ond roedd Matt Doherty wrth law i orffen yn dda wrth y postyn pellaf.

Cafwyd ymateb da gan Gaerdydd wedi hynny a bu bron i Harry Arter unioni’r sgôr gyda chynnig da ond tarodd y postyn.

Cynyddodd yr Adar Gleision y pwysau ar gôl Wolves wedi’r egwyl ac fe ddaeth gôl haeddiannol wedi ugain munud. Cododd Arter bêl obeithiol i’r cwrt cosbi, peniodd Sean Morrison hi i lwybr Aron Gunnarsson yn y cwrt chwech a gwaneth y gŵr o Wlad yr Iâ y gweddill.

Cododd hynny’r dorf a dim ond un tîm a oedd am ei hennill hi wedi hynny.

Fe ddaeth y gôl tua chwarter awr o’r diwedd, ac am gôl. Adlamodd y bêl i Hoilett ar gôrnel y cwrt cosbi a chrymanodd ergyd berffaith i’r gornel uchaf ar y cynnig cyntaf.

Heb os, roedd hi’n gôl a oedd yn haeddu ennill gêm ac roedd hi’n ddigon i godi tîm Neil Warnock o’r tri isaf, i’r pymthegfed safle yn y tabl.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Gunnarsson, Camarasa, Ralls, Arter (Harris 76’), Hoilett, Paterson, Murphy (Reid 66’)

Goliau: Gunnarsson 65’, Hoilett 77’

Cerdyn Melyn: Paterson 71’

.

Wolves

Tîm: Rui Patricio, Saiss, Coady, Boly, Doherty, Joao Moutinho, Neves, Vinagre (Cavaleiro 82’), Jimanez, Helder Costa (Jota 66’), Traore (Gibbs-White 73’)

Gôl: Doherty 18’

Cardiau Melyn: Neves 61’, Saiss 66’

.

Torf: 30,213