Abertawe 1–2 West Brom

Colli fu hanes Abertawe wrth iddynt groesawu West Brom i’r Liberty yn y Bencampwriaeth nos Fercher.

Aeth yr Elyrch ar y blaen yn gynnar cyn ildio ddwywaith cyn hanner amser a cholli am yr eilwaith mewn wythnos.

Aeth Abertawe ar y blaen wedi dim ond deg munud wrth i Oli McBurnie ymateb yn gynt na neb yn y cwrt cosbi wedi i Sam Johnstone arbed ergyd Matt Grimes.

Tri munud yn unig a barodd y fantais cyn i Craig Dawson benio cic gornel Matt Phillips i gefn y rhwyd i unioni’r sgôr.

Ac roedd yr ymwelwyr ar y blaen funud cyn yr egwyl diolch i beniad arall gan amddiffynnwr canol arall o gic gornel arall gan Phillips, Ahmed Hegazi yn rhwydo’r tro hwn.

Pwysodd yr Elyrch wrth chwilio am ail gôl eu hunain yn yr ail hanner ond y gwir amdani oedd mai West Brom a ddaeth agosaf at sgorio eto pan darodd Harvey Barnes y postyn gyda chynnig o bellter.

Mae’r golled yn gadael tîm Graham Potter yn yr unfed safle ar ddeg yn y tabl.

.

Abertawe

Tîm: Mulder, Carter-Vickers, van der Hoorn, Rodon, Roberts (McKay 61’), Fer (Montero 71’), Grimes, Olsson, Celina, McBurnie, James (Boy 77’)

Gôl: McBurnie 10’

Cardiau Melyn: James 69’, Rodon 90+4’

.

West Brom

Tîm: Johnstone, Adarabioyo, Dawson, Hegazi, Gibbs, Phillips, Livermore, Morrison, Robson-Kanu, Rodriguez, Barnes (Gayle 87’)

Goliau: Dawson 13’, Hegazi 44’

.

Torf: 17,865