Casnewydd 3–1 Northampton                                                      

Arhosodd Casnewydd o fewn cyrraedd y tri uchaf yn yr Ail Adran gyda buddugoliaeth dros Northampton ar Rodney Parade nos Fawrth. Rhwydodd y tîm cartref deirgwaith mewn hanner cyntaf awdurdodol.

Crymanodd Josh Sheehan y gyntaf i gefn y rhwyd wedi dim ond pum munud cyn i Andy Williams unioni pethau chwe munud yn ddiweddarach.

Y Cymry a aeth â hi serch hynny diolch i ddwy gôl mewn tri munud tua chwarter awr cyn yr egwyl.

Gwyrodd Jamille Matt beniad Mark O’Brien heibio David Cornell i ddechrau cyn i Padraig Amond guro’r gôl-geidwad gyda chwip o ergyd ddau funud yn ddiweddarach.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Alltudion yn bedwerydd yn y tabl gyda dim ond gwahaniaeth goliau yn eu gwahanu a’r tri uchaf.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Demetriou, Franks, O’Brien, Pipe, Sheehan, Bakinson, Crofts, Butler, Matt (Semenyo 82’), Amond

Gôl: Sheehan 5’, Matt 31’, Amond 33’

.

Northampton

Tîm: Cornell, Odoffin, Buchanan, Pierre, Taylor, Foley, McWilliams, O’Toole (Waters 45’), Hoskins (Roberts 45’), van Veen (Powell 63’), Williams

Gôl: Williams 11’

.

Torf: 2,730