Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi bod eu cyn-chwaraewr Kevin Austin wedi marw o ganser y pancreas yn 45 oed.

Bu’n brwydro’n erbyn y salwch ers y llynedd, ac fe ddaeth cadarnhad o’r salwch ym mis Ebrill.

Roedd y cefnwr chwith yn un o hoelion wyth yr Elyrch rhwng 2004 a 2008, gan helpu’r tîm i ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf ym mlwyddyn ola’r clwb ar y Vetch yn 2004-05.

Roedd hefyd yn aelod o dîm Roberto Martinez a enillodd dlws yr Adran Gyntaf yn 2007-08 a Thlws y Gynghrair Bêl-droed yn 2006.

Chwaraeodd e mewn 150 o gemau i’r clwb, gan ennill saith o gapiau dros Trinidad a Tobago.

Yn ystod ei yrfa, chwaraeodd e dros glybiau Leyton Orient, Lincoln, Barnsley, Brentford, Caergrawnt, Kettering, Bristol Rovers, Chesterfield, Darlington a Boston.

Mae teulu Kevin Austin wedi diolch i gefnogwyr Abertawe.

Dywedon nhw fod gan Abertawe le arbennig yn ei galon.

Diolchon nhw i bawb am eu cefnogaeth, gan ofyn am breifatrwydd i alaru.