Everton 1–0 Caerdydd                                                                      

Roedd un gôl yn ddigon wrth i Everton guro Caerdydd ar Barc Goodison yn Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sadwrn.

Cyn chwaraewr Abertawe, Gylfi Sigurdsson, a oedd sgoriwr y gôl holl bywsig honno wrth i’r Adar Gleision lithro’n ôl i’r tri isaf yn y tabl.

Llwyr reolodd Everton y meddiant mewn hanner cyntaf di sgôr a phatrwm tebyg a oedd i’r ail hefyd gyda’r tîm cartref yn cael y gorau o’r gêm.

Bu rhaid i Sol Bamba fod yn effro i glirio un cynnig gan Sigurdsson oddi ar y llinell ond llwyddodd y gŵr o Wlad yr Iâ i rwydo ar yr awr wedi i Neil theridge wyro ergyd Theo Walcott yn syth i’w lwybr.

Roedd honno’n ddigon i’r Toffees a bu rhaid i dîm Neil Warnock orfod dychwelyd yn waglaw i dde Cymru. Mae’r canlyniad yn eu gadael yn ddeunawfed yn y tabl.

.

Everton

Tîm: Pickford, Coleman, Keane, Mina, Digne, Andre Gomes, Gueye, Walcott (Lookman 73’), Sigurdsson (Zouma 90+3’), Bernard (Tosun 77’), Richarlison

Gôl: Sigurdsson 59’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Cunningham, Ralls, Camarasa (Ward 85’), Gunnarsson, Arter (Hoilett 74’), Harris (Murphy 67’), Paterson

Cardiau Melyn: Etheridge 43’, Camarasa 58, Harris 63’

.

Torf: 39,139