Cheltenham 2–1 Casnewydd                                                         

Cafodd Casnewydd ganlyniad siomedig brynhawn Sadwrn wrth deithio i Stadiwm Jonny-Rocks i wynebu Cheltenham, tîm sydd yn drydydd o waelod yr Ail Adran.

Peniodd William Boyle y tîm cartref ar y blaen o groesiad Ryan Broom wedi deunaw munud cyn i Tyrone Barnett ddyblu’r fantais ym munudau olaf yr hanner cyntaf wedi i Joe Day fethu a chadw ei afael ar ergyd wreiddiol Chris Hussey.

Methodd Mickey Demetriou gyfle i dynnu un yn ôl o’r smotyn yn yr ail hanner a golygodd hynny mai gôl gysur yn unig a oedd ymdrech hwyr Antoine Semenyo.

Mae tîm Mike Flynn yn llithro dau le i’r pumed safle yn y tabl.

.

Cheltenham

Tîm: Flinders, Forster, Tozer, Boyle, Hussey, Broom, Atangana, Thomas, Clements (Addai 88’), Barnett, Varney

Gôl: Boyle 18’, Barnett 44’

Cardiau Melyn: Flinders 71’, Thomas 73’, Boyle

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, Franks, Demetriou, Butler, Pring (O’Brien 45’), Bakinson, Cooper (Crofts 45’), Matt (Harris 72’), Amond, Semenyo

Gôl: Semenyo 89’

Cerdyn Melyn: Franks 48’

.

Torf: 3,672