Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake wedi llongyfarch hyfforddwr pêl-droed ar ennill gwobr am ei gyfraniad i fyd pêl-droed ar lawr gwlad.

Cafodd Amlyn Ifans o Glwb Pêl-droed Bow Street ei enwi’n Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn yng Ngowbrau Llawr Gwlad Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru yr wythnos hon.

Roedd e’n un o ddeg o bobol a ddaeth i’r brig ar draws deg o gategorïau.

“Nid ar chwarae bach mae rhywun yn derbyn y fath anrhydedd, ac mae’n destament i’ch ymroddiad, brwdfrydedd a’ch gwaith caled ar hyd y blynyddoedd,” meddai Ben Lake yn ei lythyr.

Ychwanega ei fod yn “gwbl haeddiannol”, gan fod ganddo’r “ddawn i annog y bobol ifanc sy’n dod trwy’r system i wireddu eu potensial ar y cae waeth beth fo’u gallu”, a bod gan y plant “barch aruthrol” tuag at Amlyn Ifans.

Yr enillwyr

Enillwyr y gwobrau eraill yw:

McDonald’s Pen-y-bont ar Ogwr (Bwyty Pêl-droed y Flwyddyn)

Colin Jackson, Penycae (Gwirfoddolwr y Flwyddyn)

David Nickless, Ysgolion Cynradd Sir y Fflint (Cyflawniad Rhagorol y Flwyddyn)

Merched CPD St. Florence (Prosiect Llawr Gwlad y Flwyddyn)

Llyn ac Eifionnydd (Cynghrair Ieuenctid y Flwyddyn)

Joseph Proietti, dyfarnwr o Bort Talbot (Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn)

CPD Chwaraeon Hwlffordd (Clwb Cymunedol y Flwyddyn)

Sports Xtra (Darparwr Pêl-droed Hwyliog y Flwyddyn)

Amanda Matthews (Mam Bêl-droed y Flwyddyn)