Mae disgwyl i Chris Gunter dorri record capiau Neville Southall heno, wrth i Cymru herio Albania mewn gêm gyfeillgar yn ninas Elbasan.

Ond, nid y 93 cap sy’n bwysig, meddai’r amddiffynnwr 29 oed o Gasnewydd, ond cael canlyniad da dros ei wlad.

“Fe allwn ni dorri pob record unigol o dan haul, ond yr unig beth fyddai’n fy mhoeni i yw’r canlyniad,” meddai Chris Gunter.

“Dyw’r capiau ddim o anghenraid yn rhywbeth ydw i’n meddwl amdanyn nhw… maen nhw jyst yn cynyddu gyda phob gêm… dim ond dros y cwpwl o flynyddoedd diwetha’ mae pobol wedi bod yn fy atgoffa i fy mod yn agosáu at record chwaraewyr penodol.

“Ond mae’n anodd esbonio’r peth, gan mai fy swydd i yw troi lan a chwarae mor dda ac y gallen nhw i’r tîm.”

Fe enillodd gap rhif 92 yn erbyn Denmarc nos Wener ddiwethaf (Tachwedd 16), gan ddod yn gyfartal â record Neville Southall.

Y gêm

Mae gan Gymru record wael mewn gemau cyfeillgar, ac mae herio tim Albania oddi cartref yn siŵr o’i gwneud hi’n anodd mynd yn erbyn y record honno.

Mae’r amddiffynwyr Paul Dummett a James Chester yn absennol i Gymru gydag anafiadau.

Gydag Ethan Ampadu wedi tynnu’n ôl o’r garfan hefyd, mae’r chwaraewr ifanc, Rabbi Matondo –  o Machester City – wedi cael ei alw gan Ryan Giggs.