Mae clwb pêl-droed Bayern Munich yn hyderus o arwyddo canolwr Cymru ac Arsenal, Aaron Ramsey, yn ystod yr haf.

Gyda’i gytundeb yn yr Emirates yn dod i ben, fe fydd yn cael ei ryddhau am ddim pan ddaw’r haf, ac mae nifer o glybiau wedi dangos diddordeb ynddo – yn cynnwys Lerpwl a Chelsea, ynghŷd â rhai o dramor hefyd.

Ond mae cewri’r Almaen, Bayern Munich, yn credu eu bod wedi ennill y ras i arwyddo Aaron Ramsey.

Mae hi wedi bod yn dymor sâl i Bayern Munich hyd yn hyn, gyda’r clwb yn eistedd yn bumed yng nghynghrair y Bundesliga o dan arweiniad y rheolwr, Niko Kovac.

Mae Aaron Ramsey ei hun yn ymarfer gyda charfan Cymru ar hyn o bryd, cyn eu gêm yn erbyn Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos fory (dydd Gwener, Tachwedd 16).

Fe arwyddodd Aaron Ramsey gytundeb pum mlynedd gydag Arsenal yn 2014, ac mae hi’n bosib iawn mai dramor, ac nid yn Llundain, y bydd yn chwarae y tymor nesaf.