Mae ymosodwr tîm pêl-droed Cymru, Tyler Roberts wedi cyfaddef ei fod yn “syfrdan” o gyfarfod â Gareth Bale ac Aaron Ramsey pan gafodd ei alw i’r garfan genedlaethol am y tro cyntaf.

Fe ymddangosodd yng nghrys coch Cymru am y tro cyntaf ym mis Medi, yn y fuddugoliaeth dros Weriniaeth Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Fe ddechreuodd gêm am y tro cyntaf yn erbyn yr un gwrthwynebwyr fis diwethaf.

Ac fe allai helpu ei dîm i godi i frig eu grŵp ac ennill dyrchafiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd pe baen nhw’n curo Denmarc yng Nghaerdydd nos Wener.

“Dros y chwe mis diwethaf, mae pethau wedi carlamu ac wedi fy synnu,” meddai.

“Ond dw i wedi bod yn barod am bob rhwystr a dw i am gadw fynd a gwthio am ragor.

“Rhaid i fi gyfadde’ ’mod i’n syfrdan pan ddes i i mewn i’r garfan am y tro cyntaf ac ymarfer gyda Gareth ac Aaron.

“Ond rhaid i chi sylweddoli mai eich cyd-chwaraewyr chi ydyn nhw ac mae’n wych cael eu gwylio nhw a dysgu ganddyn nhw.”