Dylai Uwch Gynghrair Lloegr gyflwyno dyfarnwyr fideo, yn ôl rheolwr tîm pêl-droed Southampton, y Cymro Mark Hughes.

Roedd cyn-reolwr Cymru’n grac ar ôl i’r dyfarnwr wrthod rhoi gôl i Charlie Austin, gan ddweud bod Maya Yoshida yn camsefyll wrth i Nathan Redmond groesi’r bêl, er nad oedd e wedi ei chyffwrdd.

Daeth y gêm yn erbyn Watford i ben yn gyfartal 1-1.

Yn dilyn y gêm, roedd Charlie Austin yntau yn grac mewn cyfweliad, gan alw penderfyniad y dyfarnwr Simon Hooper yn “jôc”.

Ond nid Southampton yn unig oedd wedi dioddef, wrth i ymosodwr Watford Nathaniel Chalobah gael ei dynnu i’r llawr yn y cwrt cosbi, ond chawson nhw ddim cic o’r smotyn.

‘Synnu’

“Mae angen iddo ddod i mewn,” meddai Mark Hughes am y defnydd o fideo i helpu dyfarnwyr.

“Ces i fy synnu na wnaethon nhw ei gyflwyno ar ddechrau’r flwyddyn [y tymor], dw i’n credu bod llawer o bobol yn y gêm [wedi cael eu synnu] hefyd.

“Mae llawer o gystadlaethau eraill wedi ei gyflwyno’n gyflym iawn, iawn.

“Mae gan yr holl brif gampau adolygiadau fideo ac am ryw reswm, mae’r Uwch Gynghrair, sy’n cael ei gwylio o amgylch y byd, yn dal i fod yn yr oesoedd tywyll.”