Byddai David Brooks wedi chwarae dros Loegr erbyn hyn oni bai ei fod e wedi dewis cynrychioli Cymru, yn ôl Ryan Giggs.

Symudodd y chwaraewr canol cae, sy’n enedigol o Warrington, o Sheffield United i Bournemouth am £11.5m dros yr haf, gan sgorio dair gwaith hyd yn hyn i’w glwb newydd.

Cyn troi ei sylw at Gymru, cafodd David Brooks ei enwi’n Chwaraewr Gorau Twrnament Toulon y llynedd, ac yntau’n chwarae dros dîm dan 20 Lloegr ar y pryd.

Ond mae’n gymwys i gynrychioli Cymru am fod ei fam yn enedigol o Langollen.

‘Talentog’

“Mae e’n chwaraewr talentog sydd bellach yn sgorio goliau yn ogystal â pherfformio’n dda,” meddai rheolwr Cymru, Ryan Giggs.

“Fe allai fod wedi bod mor wahanol i Brooksy, ac am drychineb fyddai hynny wedi bod i ni.

“Fe allai fod wedi cyrraedd carfan Lloegr oni bai ei fod e wedi dod i Gymru.

“Mae e’n chwarae’n gyson ac yn perfformio’n gyson ar y lefel uchaf, a does ond angen iddo fe barhau i wneud hynny.”