Bolton 0–1 Abertawe                                                                        

Roedd un gôl yn ddigon wrth i Abertawe drechu Bolton yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Rhwydodd Barrie McKay yn gynnar wrth i’r Elyrch gipio’r tri phwynt yn Stadiwm Prifysgol Bolton.

Chwarter awr yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd McKay’s ymwelwyr ar y blaen gydag ergyd wych o bum llath ar hugain.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd er gwaethaf ymdrechion cyn chwaraewr Caerdydd, Sammy Ameobi, i’r tîm cartref.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Elyrch i’r seithfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Bolton

Tîm: Alnwick, Olkowski, Hobbs, Beevers, Taylor (Doidge 81’), Williams, Lowe, Ameobi, Oztumer, Buckley (Noone 76’), Donaldson (Magennis 68’)

Cardiau Melyn: Buckley 35’, Beevers 68’, Williams 88’

.

Abertawe

Tîm: Mulder, Roberts, van der Hoorn, Rodon, Grimes, Fulton, Fer, McKay (Olsson 62’), Celina (Bony 80’), James (Montero 76’), McBurnie

Gôl: McKay 15’

Cardiau Melyn: Olsson 83’, Fer 84’, Mulder 90+2’

.

Torf: 14,090