Caerdydd 2–1 Brighton                                                                    

Sgoriodd Sol Bamba gôl hwyr i sicrhau buddugoliaeth ddramatig i Gaerdydd yn erbyn deg dyn Brighton yn Stadiwm y Ddinas amser cinio ddydd Sadwrn.

Rhwydodd yr amddiffynnwr canol ym munud olaf y naw deg i sicrhau’r tri phwynt i’w dîm a’u codi allan o dri isaf Uwch Gynghrair Lloegr.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond chwe munud gyda gôl hynod siomedig o safbwynt Caerdydd. Collodd Bamba ei ddyn yn y cwrt cosbi ac roedd hi’n beniad rhydd i Lewis Dunk o gic rydd hir Solly March.

Roedd yr Adar Gleision yn gyfartal gyda llai na hanner awr ar y cloc serch hynny, Callum Paterson yn penio i gefn y rhwyd wedi rhediad da a chroesiad Kadeem Harris.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Brighton ychydig funudau’n ddiweddaraf wrth i Dale Stephens gael ei anfon o’r cae am dacl flêr ar Greg Cunningham.

Caerdydd â’u dyn o fantais a oedd tîm gorau’r ail hanner a bu bron iawn i Harris eu rhoi ar y blaen mewn steil ar yr awr ond crymanodd ei ergyd o bellter yn erbyn y trawst.

Parhau i guro ar y drws a wnaeth tîm Neil Warnock ac fe gawsant eu haeddiant yn y diwedd, er bod elfen o lwc yn perthyn i’r gôl.

Roedd Bamba’n camsefyll pan darodd y postyn gyda chynnig tin dros ben ond arhosodd lluman y dyfarnwyr cynorthwyol i lawr, methodd Brighton a chlirio’r bêl o’r cwrt cosbi a daeth Bamba o hyd i gefn y rhwyd ar yr ail gynnig.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Cymry i’r pymthegfed safle yn y tabl cyn y gemau tri o’r gloch.