Fe fydd tîm pêl-droed Abertawe’n mynd am fuddugoliaeth annisgwyl heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 10), wrth iddyn nhw deithio i Bolton yn y Bencampwriaeth.

Dydy’r Elyrch ddim wedi curo’u gwrthwynebwyr oddi cartref ers 1980. Yn wir, dyma’u hunig fuddugoliaeth yno ers eu hymweliad cyntaf yn 1926 (3-0 yng Nghwpan FA Lloegr).

Mae hynny’n golygu 17 gêm waglaw mewn ychydig yn llai na chanrif.

Dechrau gwael i Bolton

Ond mae dechrau gwael i’r tymor i dîm Bolton o dan reolaeth Phil Parkinson yn destun gobaith i Abertawe, wrth i’r Saeson gipio chwe phwynt yn unig allan o’r 12 gêm gyntaf y tymor hwn.

Dim ond un fuddugoliaeth gawson nhw ers mis Awst, a dim ond un gôl maen nhw wedi’i sgorio yn eu chwe gêm ddiwethaf.

Maen nhw wedi colli eu tair gêm ddiwethaf ar eu tomen eu hunain, heb sgorio’r un gôl.

Dydyn nhw erioed wedi colli pedair gêm gartref o’r bron heb fod wedi sgorio’r un gôl.

Y timau

Mae Bolton yn gobeithio y bydd eu hasgellwr Sammy Ameobi yn holliach ar ôl wyth wythnos allan ag anaf i’w ffêr.

Ond mae amheuon am ffitrwydd y ddau chwaraewr canol cae, Gary O’Neil a Stephen Ireland.

Gallai’r ymosodwr Wilfried Bony ddychwelyd i dîm Abertawe am y tro cyntaf ers naw mis, ac mae gobeithion hefyd y gallai’r asgellwr Jefferson Montero ymddangos yn ystod y gêm.