Fe fydd rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock yn dathlu ei ganfed gêm wrth y llyw heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 10) wrth i’r Adar Gleision groesawu Brighton i Stadiwm Dinas Caerdydd (12.30).

Bydd y Cymry heb Harry Arter, sydd wedi’i wahardd am un gêm, ond mae Joe Ralls ar gael ar ôl dychwelyd o waharddiad ac anaf i’w goes, ac mae’r ymosodwr Danny Ward hefyd yn holliach ar gyfer y gêm.

Byddan nhw hefyd heb Jazz Richards, Kenneth Zohore, Nathaniel Mendez-Laing a Lee Peltier.

Un sy’n benderfynol o fwynhau’r achlysur yw asgellwr Caerdydd, Josh Murphy sy’n adnabod rheolwr Brighton, Chris Hughton o’i gyfnod yn Norwich.

Ymddangosodd Josh Murphy yn nhîm Norwich am y tro cyntaf o dan Chris Hughton yn 18 oed, ac fe sgoriodd yn y gêm gwpan honno yn erbyn Watford.

Ymunodd Josh Murphy â Chaerdydd am £11m haf diwethaf, ac mae e wedi sgorio dwy gôl yn ei bum gêm ddiwethaf.

“Roedd e’n wych,” meddai Josh Murphy am Chris Hughton. “Fe wnaeth e roi fy ngêm gyntaf i fi, ac alla i ddim diolch digon iddo fe am hynny.

“Dw i’n cofio bod yn nerfus ond saith munud ar ôl i fi ddod ymlaen, fe wnes i sgorio felly doedd hi ddim yn rhy ddrwg.”

Tra bod Brighton yn ddeuddegfed yn Uwch Gynghrair Lloegr, mae Caerdydd wedi dychwelyd i’r tri safle isaf ar ôl i Huddersfield a Newcastle ennill am y tro cyntaf y tymor hwn.

Collodd Caerdydd o 1-0 yn erbyn Caerlŷr.