Mae cyn-ymosodwr tîm pêl-droed Cymru, Ched Evans yn bwriadu dwyn achos yn erbyn ei gyfreithwyr.

Cafwyd e’n euog o dreisio ac fe dreuliodd hanner ei ddedfryd o bum mlynedd yn y carchar cyn i’r Llys Apêl wyrdroi’r dyfarniad gwreiddiol.

Mae’n honni bod yr achos wedi arwain at golli miliynau o bunnoedd dros gyfnod o bum mlynedd wrth iddo geisio profi ei fod yn ddieuog.

Fe fydd yn ceisio ennill yr arian yn ôl drwy fynd â chwmni Brabners, ei gyfreithwyr yn yr achos gwreiddiol, i’r llys.

Mae disgwyl gwrandawiad fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Yr achos a’r apêl

Cafwyd Ched Evans yn euog o dreisio dynes 19 oed mewn gwesty Premier Inn yn Y Rhyl fis Mai 2011.

Ond cafodd y dyfarniad ei wyrdroi gan y Llys Apêl, a chafodd ail achos ei gynnal yn 2016.

Casglodd ymchwilwyr preifat dystiolaeth newydd, gan gynnig £50,000 yn gyfnewid am wybodaeth i’w helpu i adeiladu achos ar ran Ched Evans.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd gan ddau ddyn oedd wedi cael rhyw gyda’r ddynes adeg yr honiadau yn erbyn y pêl-droediwr.

Cymerodd y rheithgor lai na thair awr i’w gael yn ddieuog ar ddiwedd achos oedd wedi para wyth niwrnod.

Ymateb y cyfreithwyr

Does dim sail i honiadau Ched Evans ei fod e wedi colli arian, yn ôl cwmni cyfreithwyr Brabners.

“Cyflwynodd Brabners amddiffyniad cryf o’r achos cyfreithiol yn erbyn Ched Evans yn dilyn proses drylwyr ac rydym yn gadarn ein hamddiffyniad o’n hymdriniaeth o’r achos,” meddai’r cwmni mewn datganiad.

“Rydym yn credu bod y cais am iawndal yn gwbl ddi-sail.”