Mae penaethiaid pêl-droed Ewropeaidd wedi addo gwarchod y gêm ddomestig ledled y cyfandir ar ôl cadarnhau eu gwrthwynebiad i’r syniad o greu ‘Super League’.

Mae adroddiadau yn y wasg, wedi’u seilio ar ddogfennau sydd wedi eu rhyddhau yn gyfrinachol, yn dangos y gallai 16 tîm mwyaf Ewrop – yn cynnwys Manchester United, Manchester City, Chelsea, Lerpwl ac Arsenal – ffurfio cynghrair ar wahân.

Cafodd y dogfennau eu rhyddhau gan Football Leaks, a’u cyhoeddi gan gylchgrawn Almaeneg, Der Spiegel.

Mae’n honni y gallai’r gynghrair gael ei sefydlu erbyn 2021, ac y byddai’r 11 tîm cyntaf yn saff rhag mynd lawr am ugain mlynedd.

Yn ei hanfod, syniad i ddefnyddio’r gêm er mwyn creu pres fyddai sefydlu cynghrair o’r fath.

Mae Cymdeithas y Cynghrair Ewropeaidd wedi mynegi ei wrthwynebiad gan rybuddio y gallai’r syniad gael effaith ddifrifol ar bêl-droed ar draws y cyfandir.

“Gêm ddomestig wrth galon pêl-droed”

Dywed y gymdeithas ei bod wedi lleisio “gwrthwynebiad cryf” i’r syniad o greu unrhyw gynghrair “gaëedig” fel ‘Super League’.

“Mae’r gêm ddomestig wrth galon y gêm ar draws Ewrop,” meddai.

“Byddai yn cael goblygiadau difrifol a pharhaol i gynaladwyedd hirdymor pêl-droed proffesiynol yn Ewrop.”