Mae chwaraewyr pêl-droed Leicester City wedi glanio yng Ngwlad Thai ar gyfer angladd perchennog y clwb, Vichai Srivaddhanaprabha.

Cafodd e a phedwar o bobol eraill eu lladd pan blymiodd hofrennydd i’r ddaear ger Stadiwm King Power y clwb yr wythnos ddiwethaf.

Teithiodd y garfan i famwlad y perchennog yn dilyn eu buddugoliaeth o 1-0 dros Gaerdydd ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 3) – y gêm gyntaf ers y trychineb.

Fe fydd gwasanaethau angladdol Vichai Srivaddhanaprabha yn para wythnos gyfan, ond bydd y garfan yn dychwelyd i Loegr ddydd Mawrth.