Y Bala 3–0 Met Caerdydd                                                                

Y Bala a aeth â hi wrth iddynt groesawu Met Caerdydd i Faes Tegid yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.

Rhoddodd Sean Smith y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i goliau ail hanner Evan Horwwod a Steven Tames sicrhau’r tri phwynt.

Aeth y Bala ar y blaen wedi dim ond deg munud, y cefnwr chwith, Sean Smith, yn rhwydo wedi cyd chwarae da gyda Henry Jones ar ei ffordd i’r cwrt cosbi.

Bu bron i Sam Snaith unioni pethau i’r myfyrwyr yn fuan wedyn ond tarodd y trawst gyda’i foli.

Ar ôl gorffen yr hanner cyntaf yn gryf, fe ddechreuodd Met yr ail yn dda hefyd a bu rhaid i sgoriwr y Bala, Smith, fod yn effro i glirio cynnig Adam Roscrow oddi ar y llinell.

Methu a manteisio tra’r oeddynt yn cael y gorau o’r gêm a oedd hanes y myfyrwyr wrth i’r gêm orffen, fel y dechreuodd hi, gyda’r Bala’n rheoli.

Dyblodd Horwood eu mantais ugain munud o ddiwedd y naw deg, yn gorffen yn grefftus ar y foli wedi i’r bêl adlamu’n garedig iddo yn y cwrt cosbi.

Ac roedd y tri phwynt yn ddiogel ychydig funudau’n ddiweddarach wedi i Tames rwydo’r drydedd gydag ergyd isel gywir o ugain llath.

Mae’r canlyniad yn rhoi’r Bala’n bedwerydd a Met Caerdydd yn seithfed.

.

Y Bala

Tîm: Morris, Burns, Smith, Stuart Jones, Stuart J. Jones (Hayes 85’), Tames (K. Smith 84’), Burke, Horwood, Gosset, Venables (Sheridan 74’), H. Jones

Goliau: Smith 10’, Horwood 71’, Tames 77’

Cerdyn Melyn: Venables 53’

.

Met Caerdydd

Tîm: Lang, McCarthy, Woolridge, Lewis (Williams 78’), E. Evans, Baker, Roscrow, W. Evans, Edwards, Black (Owen 61’), Snaith

Cerdyn Melyn: W. Evans 84’

.

Torf: 204