Carlisle 3–2 Casnewydd                                                                   

Sgoriodd Danny Grainger yn yr amser a ganiateir am anafiadau i ennill y gêm i Carlisle wrth i Gasnewydd ymweld â Pharc Brunton yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Roedd hi’n ymddangos bod yr Alltudion wedi gwneud digon i ennill pwynt yng Nghaerliwelydd ond cipiwyd hwnnw oddi arnynt yn yr eiliadau olaf.

Rhoddodd Jamie Devitt y tîm cartref ddwy gôl ar y blaen yn y deuddeg munud cyntaf ac felly yr arhosodd hi tan chwe munud cyn yr egwyl pan beniodd Padraig Amond yr ymwelwyr yn ôl i’r gêm.

Unionodd Dan Butler y sgôr dri munud o ddiwedd y naw deg ond cipiodd Granger y fuddugoliaeth i Carlisle gyda tharan o ergyd o bellter yn yr ail funud o amser brifo ar ddiwedd y gêm.

Mae’r canlyniad yn gadael Casnewydd yn chweched yn nhabl yr Ail Adran.

.

Carlisle

Tîm: Collin, Liddle, Gerrard, Gillesphey, Grainger, Sowerby, Glendon (Bennett 67’), Devitt, Jones (Slater 67’), Yates, Nadesan

Goliau: Devitt 9’, 12’, Grainger 90+2’

Cerdyn Melyn: Grainger 90+2’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, Demetriou, Butler, Hornby-Forbes (Matt 66’), Bakinson, Dolan, Sheehan (Marsh-Brown 85’), Willmott, Semenyo (Harris 81’)

Goliau: Amond 39’, Butler 87’

.

Torf: 3,541