Mae’n “fonws” fod gan Glwb Pêl-droed Abertawe fachgen lleol a chefnogwr oes fel Joe Rodon yn y tîm, yn ôl y rheolwr Graham Potter.

Fe fu’n siarad â golwg360 yn dilyn y newyddion ddoe (Tachwedd 1) fod yr amddiffynnwr canol 21 oed o ardal Llangyfelach y ddinas wedi llofnodi cytundeb newydd a fydd yn ei gadw gyda’r clwb tan 2022.

Bu cryn ddyfalu am ei ddyfodol dros y misoedd diwethaf, ac yntau eisoes yn denu sylw Manchester City, Southampton a Bournemouth ers torri drwodd i dîm Abertawe a charfan Cymru.

Teulu o bêl-droedwyr

Ac yntau’n gyn-ddeilydd tocyn tymor, Joe Rodon yw’r drydedd genhedlaeth o’i deulu i gynrychioli Abertawe, yn dilyn ei dad-cu Peter a’i ewythr Chris.

Yn ôl Graham Potter, gallai’r cefndir hwnnw fod yn allweddol iddo wrth symud ymlaen yn ei yrfa.

“Gallwn ni barhau i gydweithio a’i helpu fe i fod yn chwaraewr o’r radd flaenaf, ac yn chwaraewr i Gymru oherwydd dyna le dylen ni fod yn anelu ato,” meddai.

“Byddwn i’n dweud celwydd pe bawn i’n dweud ’mod i wedi [trafod ei gefndir] i gael y math yna o adborth.

“Mae gan bob chwaraewr swyddi a theuluoedd. Ond mae Joe yn dod o’r ardal ac mae yna gysylltiad, a dyna’r gwahaniaeth.

“Ond alla i ddweud fod mwy o ots ganddo fe na [chwaraewr canol cae Abertawe] Matt Grimes, er enghraifft? Na. Byddai hynny’n gwneud anghyfiawnder â Matt. Ond yr hyn alla’i ei ddweud am Joe yw bod ei gefndir yn fonws.”

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf

Yr hyn sy’n bwysig i Graham Potter, fodd bynnag, yw y gall Joe Rodon a chwaraewyr iau eraill y garfan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bêl-droedwyr sydd am wisgo crys Abertawe.

“Mae e’n adnabod y clwb ac mae’r cefnogwyr yn uniaethu â fe, sy’n hollol ddealladwy. Byddai’n wych pe bai ryw fachgen chwech oed yn rhywle yn Abertawe’n dweud y gallai fod y Joe Rodon nesa’.

“A dyna’r peth mwya’ pwerus, y ffaith fod hynny’n bosib. Gallwn ni drafod datblygu ieuenctid a rhoi popeth yn ei le, ond os nad oes unman iddyn nhw fynd, mae hynny’n anodd iawn.

“Mae gan Joe ac eraill gyfle, a dw i’n credu bod hynny’n wych i ddatblygiad y to iau.”

‘Ro’n i am ddilyn fy mrawd’

Yn ôl Joe Rodon, roedd yn dyheu am ddilyn yn ôl troed ei frawd hŷn Sam a chynrychioli Academi Abertawe er pan oedd e’n fachgen ifanc.

Cafodd ei fagu’n gwylio cenhedlaeth Lee Trundle ar droad y ganrif, a hynny yn ystod oes cae’r Vetch ac ymhell cyn dyddiau’r Uwch Gynghrair.

“Wrth edrych yn ôl, mae gen i atgofion gwych,” meddai, “ac mae meddwl am le’r ydw i nawr yn freuddwyd.

“Ro’n i’n mynd i’r Vetch yn ifanc iawn. Dw i ddim yn cofio fy ngêm gyntaf, ond roedden ni i gyd yn yr eisteddle fel teulu. Ro’n i braidd yn ifanc ar gyfer y North Bank [y prif deras]!

“Bydden i’n edrych allan ar y cae ac yn breuddwydio am fod allan yno ryw ddiwrnod yn gwisgo crys yr Elyrch. Dw i’n gwneud hynny nawr, ac yn gwireddu’r freuddwyd.”

Cael ei fagu ar bêl-droed

“Dechreuais i chwarae i Langyfelach yn ifanc iawn, ac roedd fy mrawd hŷn yno gyda fi ac mae wedi bod yn daith wych ers hynny,” eglura, wrth ymhelaethu ar ei gyflwyniad i’r byd pêl-droed.

“Aeth fy mrawd yn ei flaen i chwarae i Academi’r Elyrch, a dyna le’r o’n i am fod. Ro’n i am ei ddilyn e, fel unrhyw frawd bach.

“Pêl-droed oedd y gamp i fi, fyth ers i fi gicio pêl am y tro cyntaf. Unwaith ro’n i yn y system yn Abertawe, fe wnaeth yr ysfa ynof fi gryfhau wedyn. Ro’n i am ei wneud e am weddill fy mywyd.”

Y dyfodol

Ond mae wedi mynd sawl cam ymhellach na’i frawd, gan gynrychioli’r tîm cyntaf yn gyson y tymor hwn, a chael ei alw i garfan Cymru – a’r datblygiad hwnnw wedi digwydd yn gyflym iawn, meddai.

“Dyw e ddim cweit wedi taro fi eto. Ond dw i mor browd a hapus, a gobeithio bod mwy i ddod.

“Doedd e ddim yn benderfyniad anodd o gwbl [llofnodi’r cytundeb], mae’n rhywbeth dw i wedi bod eisiau ei wneud ac yn gobeithio’i wneud ers cwpwl o flynyddoedd. Dw i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r clwb, ond dw i’n gwybod fod mwy i ddod, a bod angen i fi wneud mwy.”

Ac yntau wedi denu sylw’r clybiau mawr, mae traed Joe Rodon wedi aros yn solet ar y ddaear, ac mae’n mynnu ei fod yn canolbwyntio ar aros gydag Abertawe.

“Dyma le dw i’n chwarae pêl-droed ers 12 mlynedd. Felly mae ymrwymo i ragor o flynyddoedd yn fonws i fi a ’nheulu, a dw i’n credu mai dyna’r peth gorau i fi ar gyfer y dyfodol.”