Casnewydd 1–1 Morecambe
Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Gasnewydd groesawu Morecambe i Rodney Parade yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd Padraig Amond y tîm cartfef ar y blaen yn gynnar cyn i Kevin Ellison unioni pethau yn yr ail hanner.
Roedd llai na munud ar y cloc pan beniodd Amond Gasnewydd ar y blaen ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.
Yn wir, felly yr arhosodd hi tan 13 munud o ddiwedd y naw deg pan unionodd Kevin Ellison yn dilyn gwaith creu cyn chwaraewr y Drenewydd, Jason Oswell.
Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn bedwerydd yn y tabl.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Pipe, O’Brien (Pring 45’), Demetriou, Butler, willmott, Bennett (Hornby-Forbes 22’), Dolan, Semenyo, Matt (Harris 79’), Amond
Gôl: Amond 1’
Cardiau Melyn: O’Brien 8’, Matt 59’
.
Morecambe
Tîm: Roche, Mills, Yarney, Lavelle, Conlan, Wildig, Cranston (Ellison 71’), Leitch-Smith, Mandeville (Kenyon 81’), Oates (Oswell 71’), Oliver
Gôl: Ellison 77’
Cerdyn Melyn: Ellison 86’
.
Torf: 3,206