Lerpwl 4–1 Caerdydd                                                                        

Ildiodd Caerdydd bedair gôl wrth golli yn erbyn Lerpwl yn eu gêm Uwch Gynghrair Lloegr yn Anfield brynhawn Sadwrn.

Rhwydodd Callum Paterson un i’r ymwelwyr o dde Cymru ond nid oedd hynny’n ddigon wrth i’r Cochion lwyr reoli.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond deg munud, Mo Salah yn rhwydo wedi i ergyd wreiddiol Sadio Mane gael ei hatal.

Gwnaeth Caerdydd yn dda i aros yn y gêm tan hanner amser, tarodd Virgil van Dijk y postyn i Lerpwl cyn i Sean Morrison glirio cynnig adam Lallana oddi ar y llinell.

Bu rhaid i Lerpwl aros tan hanner ffordd trwy’r ail hanner i ddyblu eu mantais gydag ergyd droed chwith gywir gan Mane.

Rhoddwyd llygedon o obaith i’r Adar Gleision wedi hynny gyda gôl Paterson, y bêl yn gwyro’n garedig iddo yn y cwrt cosbi oddi ar droed van Dijk.

Ond buan iawn yr adferodd Lerpwl eu rheolaeth o’r sgôr gyda dwy gôl mewn pedwar munud i sicrhau’r tri phwynt. Rhywdodd Xherdan Shaqiri y drydedd cyn i Mane sgorio ei ail ef a phedwaredd ei dîm, yn codi’r bêl yn gelfydd dros Neil Etheridge.

Mae’r canlyniad yn codi Lerpwl i frig y tabl ond yn gadael Caerdydd yn yr ail safle ar bymtheg.

.

Lerpwl

Tîm: Alisson, Alexander-Arnold, Lovren, van Dijk, Moreno, Wijnaldum, Fabinho, Lallana (Shaqiri 61’), Firmino (Milner 71’), Mane, Salah

Gôl: Salah 10’, Mane 66’, 87’, Shaqiri 84’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bennett, Hoilett, Camarasa, Gunnarsson (Damour 73’), Murphy (Harris 74’), Reid (Zohore 83’), Paterson

Gôl: Paterson 77’

.

Torf: 53,373