Mae gemau seicolegol y rheolwr Neil Warnock yn helpu chwaraewyr tîm pêl-droed Caerdydd i ymdopi â’r pwysau yn Uwch Gynghrair Lloegr, yn ôl yr ymosodwr Bobby Reid.

Cododd yr Adar Gleision allan o dri isa’r tabl ar ôl curo Fulham o 4-2 ddydd Sadwrn – y tro cyntaf iddyn nhw ennill y tymor hwn, a’u buddugoliaeth gyntaf yn yr Uwch Gynghrair ers mis Ebrill 2014.

Roedd Neil Warnock wedi awgrymu cyn y gêm nad oedd e’n credu y byddai ei dîm yn aros yn yr adran uchaf ar ddiwedd y tymor.

Yn ôl Bobby Reid, tynnu pwysau oddi ar y chwaraewyr ac nid eu rhoi nhw o dan ragor o bwysau oedd nod y rheolwr.

“Mae e’n gwneud jôcs yn y wasg sy’n tynnu llawer o bwysau oddi arnon ni,” meddai Bobby Reid ar ôl sgorio’i gôl gyntaf i’r clwb ar ôl symud o Bristol City am £10m dros yr haf.

“Ry’ch chi [y wasg] yn siarad amdano fe a’i sylwadau, ac ry’n ni’n mynd allan ac yn perfformio fel yna.”