Nid yw Aaron Ramsey yn mynd i gael “triniaeth arbennig” yn Arsenal wrth iddo agosáu at ddiwedd ei gytundeb meddai rheolwr y clwb, Unai Emery.

Mae’n edrych fel bod y Cymro’n gadael Stadiwm Emirates yn yr haf ar ôl iddo wrthod cytundeb newydd gyda’r clwb.

Ond beth bynnag sy’n digwydd ym mywyd y chwaraewr, ae ffocws Unai Emery ar gêm nesaf Arsenal yn erbyn Caerloyw ddydd Llun  nesaf (Hydref 22), a tydi’r rheolwr o Sbaen ddim am flaenoriaethu dyfodol Aaron Ramsey wrth iddo lygadu tlysau eleni.

“Dw i eisiau ei berfformiad fod fel unrhyw chwaraewr arall,” meddai’r rheolwr.

“Ddydd Llun, os ydi o yn y tîm cyntaf neu ar y fainc, mae disgwyl iddo ddod â’i ffocws ar gyfer y gêm hon i’n helpu ni.

“Dydi o’n ddim gwahanol i chwaraewyr eraill.”