Cic rydd brydferth gan hogyn o Gorwen wnaeth y gwahanielaeth neithiwr rhwng gêm ddi-sgôr a buddugoliaeth i dîm pêl-droed Cymru.

Un gôl ordd yn gwahanu Cymru a Gweriniaeth Iwerddon ar ôl iddyn nhw fynd ben-ben am yr ail dro yn Grŵp B4 Cynghrair y Cenhedloedd.

Fe oorffennodd y gêm 0-1 i Gymru yn Stadiwm Aviva, Dulyn… a chic rydd Harry Wilson, 20 oed, oedd yn gyfrifol am fachu tri phwynt i ddim ifanc Ryan Giggs. 

Roedd tîm Cymru neithiwt yn dipyn llai profiadol na’r tîm hwnnw a chwalodd Iwerddon 4-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis diwethaf, gydag absenoldeb Gareth Bale a Aaron Ramsey yn golygu fod yn rhaid i’r to ifanc gymryd cyfrifoldeb.

Hwn oedd y tro cyntaf ers 2008 i Gymru chwarae gêm gystadleuol heb y ddau.

Mae’r fuddugoliaeth yn paratoi’r tîm ar.gyfer gêmm enfawr yn erbyn Denmarc yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis nesaf a fydd yn penderfynu enillydd Grŵp B4 Cynghrair y Cenhedloedd.