Mae Aaron Ramsey wedi tynnu’n ôl o garfan Cymru cyn gêm Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Iwerddon ddydd Mawrth oherwydd “rhesymau teuluol”.

Mi fydd absenoldeb Aaron Ramsey, sy’n 27 oed, yn gwneud her tîm pêl-droed Cymru tipyn anoddach yn Stadiwm Aviva yn Nulyn yfory (Dydd Mawrth, Hydref 16).

Mae’n golygu bod chwaraewr Abertawe, Daniel James, wedi cael ei alw i’r garfan.

Ergyd i Giggs

Mae colli Aaron Ramsey yn ergyd arall i Ryan Giggs, rheolwr Cymru, yn dilyn anafiadau i Gareth Bale, Ethan Ampadu a Chris Mepham, sydd hefyd yn colli gêm Grŵp B4 Cynghrair y Cenhedloedd.

Bydd rhaid i Ryan Giggs benderfynu pwy sydd am lenwi esgidiau Ramsey, a chwaraeodd gêm lawn yn erbyn Sbaen ar ddydd Iau (Hydref 11), pan gollodd Cymru 4-1.

Roedd hi’n ymddangos bod Ramsey yn cyfeirio at ychwanegiad newydd i’w deulu pan ddathlodd ei gôl i Gymru wrth drechu Gweriniaeth Iwerddon 4-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis diwethaf.