Mae cefnwr de tîm pêl-droed Cymru, Chris Gunter yn mynnu y gall ei dîm gystadlu â dull corfforol Gweriniaeth Iwerddon o chwarae’r gêm.

Bydd y ddwy wlad yn mynd ben-ben yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn Nulyn nos Fawrth, ond fe fydd rhaid i Gymru ymdopi heb Gareth Bale, sydd â blinder yn ei gyhyrau.

Fe fydd y Gwyddelod yn ceisio gwneud yn iawn am y golled o 4-1 yng Nghaerdydd fis diwethaf.

Ac fe fydd Cymru’n ceisio taro’n ôl ar ôl iddyn nhw golli o 4-1 yn erbyn Sbaen yng Nghaerdydd nos Iau.

Dywedodd Chris Gunter, “Dros gyfnod hir o amser, dw i ddim yn credu bod modd cyfeirio at ddiffyg brwydr na dyhead ymhlith y garfan hon.

“Fe wnaethon ni ildio goliau cynnar ac fe gadwodd Sbaen y bêl. Roedd yn edrych yn waeth nag yr oedd.

“Fe fydd Iwerddon ychydig yn fwy corfforol, ond ry’n ni wedi sefyll lan iddyn nhw o’r blaen ac fe allwn ni edrych yn ôl ar y profiadau hynny gan wybod y gallwn ni ymdopi â nhw.”

David Brooks

Un sy’n awyddus i ailadrodd ei berfformiad campus yw David Brooks, a ddaeth i’r cae fel eilydd yn yr ail hanner yn erbyn Sbaen.

Roedd ei gyflymdra’n ormod i’r Sbaenwyr, wrth iddo gynorthwyo gôl Sam Vokes yn y funud olaf un.

Dywedodd, “Rhaid i chi deimlo’n hunanhyderus i ddod ymlaen a gwneud gwahaniaeth.

“Fe wnes i drio mynd ymlaen cymaint â phosib gan obeithio gwneud argraff.”