Cei Connah 2–0 Coleraine                                                               

Mae Cei Connah yn wyth olaf Cwpan Irn-Bru ar ôl trechu Coleraine yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy nos Sadwrn.

Roedd goliau ail hanner Horan ac Owens yn ddigon i’r tîm o Uwch Gynghrair Cymru drechu’r ymwelwyr o Ogledd Iwerddon.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe aeth Cei Connah ar y blaen ar yr awr gyda gôl nodweddiadol o uniongyrchol, tafliad hir Andy Owens yn cael ei phenio i gefn y rhwyd gan George Horan.

Aeth Coleraine i lawr i naw dyn yn fuan wedyn gyda dau gerdyn coch mewn cyfnod o bedwar munud, y cyntaf i Stephen Lowry a’r ail i Stephen O’Donnell.

Doedd fawr o syndod felly gweld y Nomadiaid yn diogleu’r fuddugoliaeth gydag ail gôl yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm, Owens yn rhwydo yn y cwrt chwech wedi gwaith da Michael Bakare ar y chwith.

.

Cei Connah

Tîm: Rushton, Disney, Horan, Harrison, Wignall (Bakare 87’), Morris, Wilde (Wilson 45’), Owens, Poole (Jones 45’), Holmes, Owen

Goliau: Horan 61’, Owen 90+3’

.

Coleraine

Tîm: Johns, Mullan, Harkin, Douglas, McCauley (Whiteside 86’), Lowry, Bradley (McLaughlin 79’), Burns, O’donnell, Parkhill (Gawne 70’), Canning

Cardiau Melyn: Lowry 31’, 65’, Mullan 54’, Harkin 82’

Cardiau Coch: Lowry 65’, O’Donell 68’

.

Torf: 624