Mae gan Gareth Bale 24 awr yn unig i brofi ei ffitrwydd er mwy cael ei ystyried ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn nos Fawrth.

Doedd dim modd i’r seren o ymosodwr herio Sbaen yng Nghaerdydd nos Iau oherwydd blinder yn ei gyhyrau, ac fe wnaeth Cymru weld ei eisiau wrth iddyn nhw golli o 4-1 yn Stadiwm Principality.

Fe fydd rhaid iddo allu ymarfer gyda’r garfan ddydd Sul er mwyn cael ei gynnwys yn y garfan, ac fe fydd Real Madrid hefyd yn cadw llygad barcud ar ei ddatblygiad dros y dyddiau nesaf.

Mae gan y Sbaenwyr gemau yn erbyn Levante yn La Liga a Viktoria Plzen yng Nghynghrair y Pencampwyr, cyn teithio i Barcelona ar gyfer gêm El Clasico ar Hydref 28.

Mae Gwion Edwards wedi’i alw i garfan Cymru rhag ofn na fydd Gareth Bale yn holliach.

Anafiadau eraill

Yn y cyfamser, mae amheuon am ffitrwydd Ethan Ampadu a Chris Mepham ar drothwy’r gêm nos Fawrth.

Mae’r amddiffynnwr Kieron Freeman wedi’i alw i’r garfan.

Mae e wedi chwarae i dimau dan 17, dan 19 a dan 21 Cymru.