Gwion Edwards yw’r chwaraewr diweddaraf i ymuno â charfan tîm pêl-droed Cymru.

Mae’r asgellwr ddi-gap, sy’n chwarae i Ipswich Town, wedi cael ei alw i’r tîm ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn Nulyn nos Fawrth (Hydref 16).

Dywed cyhoeddiad ar wefan swyddogol Ipswich:

“Mae asgellwr y Gleision, a arwyddodd o Petersborough United yn ystod yr haf, wedi creu argraff yn y tîm hyd yn hyn y tymor hwn a bellach mae wedi cael ei wobrwyo gyda lle yng ngharfan Ryan Giggs.”

 Cefndir

 Cychwynnodd gyrfa bêl-droed Gwion Edwards, sy’n 25 oed ac yn wreiddiol o Lanbedr Pont Steffan, yn nhîm ieuenctid Aberystwyth yn 2004.

O fanno aeth yn ei flaen i chwarae i dîm Abertawe, cyn treulio cyfnodau byr yn St Johnstone, Crawley Town a Petersborough United. Fe arwyddodd i Ipswich Town am £700,000 tros yr Haf.

Cafodd Gwion Edwards ei alw i garfan Cymru ar gyfer gemau cymhwyso Ewro 2016 yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Cyprus, ond ni chafodd ei gynnwys yn y tîm.

Mae ganddo gyfanswm o 28 gôl mewn 169 gêm i’w enw.

  Tîm Cymru: y diweddaraf

Cyfaddefodd Ryan Giggs  ei bod hi’n annhebygol y bydd Gareth Bale yn ffit ar gyfer y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Mae’r amddiffynnwr 26 oed Kieren Freeman, o Sheffield United, hefyd wedi cael ei alw i’r garfan am y tro cyntaf.

Mae Cymru yn parhau i asesu ffitrwydd Ethan Ampadu a Chris Mepham ar ôl i’r ddau gael anaf yn dilyn gem Sbaen neithiwr (Hydref 11).