Wrecsam 1–0 Havant & Waterlooville                                      

Mae record gartref ddi guro Wrecsam yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr y tymor hwn yn parhau wedi iddynt guro Havant & Waterlooville o gôl i ddim ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Llwyr reolodd y Dreigiau’r hanner cyntaf ac roedd Jordan Maguire-Drew eisoes wedi taro’r trawst ddwy waith cyn i Rekeil Pyke roi’r tîm cartref ar y blaen wedi hanner awr, yn creu lle iddo’i hun yn y cwrt cosbi cyn gorffen yn daclus heibio i Ben Dudzinski.

Gwnaeth Dudzinski lu o arbediadau da i gadw’r ymwelwyr yn y gêm rhwng hynny a’r egwyl ac er nad oedd Wrecsam cystal ar ôl troi roeddynt wedi gwneud digon i gipio’r tri phwynt.

Mae’r canlyniad yn cadw tîm Sam Ricketts yn bedwerydd yn y tabl, ddau bwynt yn unig y tu ôl i Salford ar y brig.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Pearson, Maguire-Drew (Rutherford 76’), Young, Summerfield, Carrington, Walker (Wright 82’), Lawlor, Pyke, Beavon (Deverdics 87’)

Gôl: Pyke 31’

Cerdyn Melyn: Lawlor 90+1’

.

Havant & Waterlooville

Tîm: Dudzinski, Harris (Strugnell 79’), Woodford, Robinson, Tarbuck, Stock, Huggins, Cordner, Kabamba, Lewis (Cosgrove 72’), Sekajia (Pavey 72’)

Cerdyn Melyn: Cordner 89’

.

Torf: 4,323