Abertawe 2–3 Ipswich                                                                      

Colli fu hanes Abertawe wrth iddynt groesawu Ipswich i’r Liberty am gêm gyffrous yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Roedd hi’n ymddangos bod Bersant Celina wedi achub pwynt i’r Elyrch ddeuddeg munud o’r diwedd ond cipwyd hwnnw oddi arnynt gan beniad hwyr Trevoh Chalobah i’r ymwelwyr.

Naw munud yn unig a oedd ar y cloc pan aeth Abertawe ar y blaen, Janoi Donacien yn gwyro’r bêl i’w rwyd ei hun wedi gwaith da gan y Cymry ifanc, Dan James a Connor Roberts.

Cymro arall a gafodd gôl nesaf y gêm ond yn anffodus i’r Elyrch, crys glas a oedd amdano, Gwion Edwards yn penio croesiad Freddie Sears i gefn y rhwyd i unioni pethau yn erbyn ei gyn glwb.

Roedd Ipswich ar y blaen ychydig funudau’n ddiweddarach ac roedd Edwards yn ei chanol hi eto wrth i groesiad y gŵr o Lambed gael ei benio i’w rwyd ei hun gan Mike van der Hoorn.

Yr ymwelwyr ar y blaen wedi hanner awr ac felly yr arhosodd hi tan ddeuddeg munud o’r diwedd pan unionodd Celina gyda gôl unigol dda.

Ond nid dyna oedd diwedd y sgorio wrth i beniad Chalobah o gic gornel Grant Ward gipio’r tri phwynt i’r ymwelwyr chwe munud o ddiwedd y naw deg.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Graham Potter yn ddegfed yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Naughton (Asoro 45’), van der Hoorn (McKay 75’), Rodon, Grimes, Carroll, Byers (Fer 58’), Roberts, James, Celina, McBurnie

Gôl: Donacien [g.e.h.] 9’, Celina 79’

Cerdyn Melyn: Rodon 88’

.

Ipswich

Tîm: Gerken, Donacien (Knudsen 45’), Chambers, Nsiala, Pennington, Skuse, Chalobah, Ward, Dozzell (Downes 80’), Edwards (Jackson 90+3’), Sears

Goliau: Edwards 27’, van der Hoorn [g.e.h.] 31’, Chalobah 84’

Cardiau Melyn: Dozzell 68’, Chalobah 81’

.

Torf: 18,810